|
|
|
|
Swydd ar gael Mae Cymorth Compost yn chwilio am gydlynydd newydd i gychwyn cyn gynted â Mae'r swydd hon yn gyfle gwych i ddatblygu prosiect amgylcheddol a chymdeithasol llwyddianus sydd yn ymgymryd â'r gwaith pwysig o atal gwastraff domestig a anfonir i safleoedd tirlenwi yn flynyddol. Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth gydag amryw o sefydliadau, canolfannau ac awdurdodau lleol gan weithio i gynnal gweithgareddau Cymorth Compost a bydd digon o gyfle i arwain y bartneriaeth i gyfeiriadau newydd. Manylion y Prosiect Cymorth Compost Aid Ffurfiwyd Partneriaeth Cymorth
Compost Aid er mwyn darparu cyngor ymarferol am gompostio yn y cartref i drigolion
Gwynedd drwy: Statws y Prosiect ar 19eg Chwefror 2008 Mae Cymorth Compost mewn cyfnod o newid. Mae'r cyllid cychwynol yn dod i ben ar Mawrth 31ain, Mae Deio Jones y cydlynydd presennol yn gweithio rhan amser ar y prosiect ar hyn o bryd ac yn gadael i swydd llawn amser ar Fawrth 1af 2008. Hyd yn hyn mae'r cynllun wedi cyflawni y canlynol:
Y Ffynnonellau Cyllid
Clustnodwyd arian ir Bartneriaeth gan Gronfa Gymunedol Caergylchu ym mis Mawrth 2007 am y cyfnod o 1 o Ebrill hyd 31 o Mawrth 2008. Maer Gronfa yn cael ei rheoli gan Mantell Gwynedd, cyngor gwasanaethau gwirfoddol y sir, yng Nghaernarfon. Ffynhonnell Cronfa Gymunedol Caergylchu ydy grant or Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd. Maer pecyn ariannol yn talu am y swydd Cydgysylltydd Cymorth Compost ar costau swyddfa, ond hefyd am hyfforddi staff, cyfarfodydd grwp llywio, costau gwirfoddolwyr, deunyddiau gwybodaeth hyrwyddo, cadi compostio cegin, a sefydlu 2 safle arddangos compostio yn y cartref. Bydd Cyngor Gwynedd yn darparu biniau compost am ddim. Mae'r Bartneriaeth yn darparu ceisiadau am cyllid i'r flwyddyn 2008/9.
|